MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru
Darparu cyfloedd STEM o'r radd flaenaf, wedi'u hariannu'n llawn, i fyfyrwyr yng Nghymru, y DU.
Cyfoethogi STEM.
Hyder mewn STEM.
Sefydliad Technoleg Massachusetts(MIT)
Mae Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd. Mae ei arwyddair - mens et manus - yn golygu “meddwl a llaw”, ac yn ymgorffori ymrwymiad y sefydliad i ddysgu ymarferol.
MIT International Science and Technology Initiatives (MISTI)
Mae MISTI yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrwyr MIT brofi'r byd wrth ddatblygu gwybodaeth, mynd i'r afael â heriau anodd, a pharatoi ar gyfer bywydau o effaith, gwasanaeth ac arweinyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang ryng-gysylltiedig.
Llywodraeth Cymru
Cefnogir rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru gan adran addysg Llywodraeth Cymru. Bydd adnoddau a gynhyrchir drwy’r rhaglen yn cael eu defnyddio i gefnogi ysgolion a cholegau ar draws Cymru trwy blatfform digidol Llywodraeth Cymru, Hwb.