Hyfforddwyr MISTI GTL yng Nhymru 2023

 

Alexandra Wardle

Mae Alexandra yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sy'n astudio Peirianneg Fiolegol. Yn 2020, Alexandra oedd derbynnydd Tystysgrif Rhagoriaeth Academaidd M.A.S.S a chymerodd ran yn Battlecode MIT 2022, Twrnamaint AI, a Code For Good; lle cyfrannodd at ddatblygu ap gwe i gefnogi’r sefydliad dielw Aaron’s Present. Mae ei phrofiad gwaith yn cynnwys interniaeth ymchwil Israddedig yn y Ganolfan Peirianneg mewn Meddygaeth (CEM) ym Mhrifysgol Harvard lle canolbwyntiodd ar ddadgellio ac ailgellio’r afu gyda chymwysiadau mewn trawsblaniadau organau. Bu’n gynorthwyydd addysgu yn Ysgol Codio Penguin lle bu’n cefnogi myfyrwyr mewn cyrsiau codio STEM. Yn ei hamser rhydd, mae Alexandra yn ymwneud â Cherddorfa Symffoni MIT, Cerddorfa Gêm Fideo MIT ac mae ar Dîm Ultimate Frisbee sMITe.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rwyf wedi cael llawer o brofiad yn addysgu myfyrwyr, ac rwy'n ei fwynhau'n fawr. Mae’n gyfle gwych i gyfrannu/roi’n ôl i gymuned a chysylltu â chenedlaethau iau o fyfyrwyr.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Nid yn unig mae gen i rywfaint o brofiad addysgu, mae gen i hefyd rywfaint o brofiad o greu cwricwla ar gyfer dosbarthiadau. Roeddwn yn gyfrifol am greu cwricwlwm llawn ar gyfer dosbarth gwersyll haf codio yn 2021.


Amelia Dogan

Mae Amelia yn fyfyrwraig yn y bedwaredd flwyddyn yn MIT sy'n astudio Cynllunio Trefol gyda Chyfrifiadureg ac Astudiaethau Americanaidd. Pan nad ydynt yn astudio mae Amelia ar Gyngor Ymgynghorol ar gyfer Myfyrwyr Addysg Leiafrifol MIT, Bwrdd Gweithredol Menter Asiaidd Americanaidd MIT, yn Cynrychiolydd Israddedig Cynllunio Campws MIT, yn aelod o Gymdeithas Peirianwyr Merched MIT, yn Cynghorydd Cyswllt MIT ac yn Tiwtor Cyfrifiadureg TSR^2. Mae eu profiad gwaith perthnasol yn cynnwys swydd cynorthwyydd ymchwil yng Nghanolfan Taskar ar gyfer Technoleg Hygyrch ym Myrifysgol Washington lle buont yn ymchwilio i weithrediad fframweithiau cyfiawnder anabledd mewn archwiliadau AI a chreu archwiliadau newydd ar ddiffyg presenoldeb cymorth symudedd mewn 4 set ddata segmentu semantig trefol.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rydw i eisiau dysgu i ddysgu mwy am Gymru ar ôl i mi ddysgu cymaint wrth baratoi ar gyfer GTL llynedd. Ymhellach, rydw i eisiau dysgu sut i addysgu mewn cyd-destun trawsddiwylliannol. Bydd angen i mi addysgu mewn ysgol i raddedigion ac rwyf am gynyddu fy sgil nawr.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Mae gen i brofiad o fod yn gynorthwyydd addysgu a thiwtor. Yn ogystal, mae gen i brofiad ymchwil a diwydiant perthnasol o Data + Feminism Lab, Google, ac Adran Drafnidiaeth yr UD. Es i drwy hyfforddiant GTL y llynedd ac rwy'n teimlo'n hyderus y byddaf yn gallu paratoi ar gyfer eleni.

Audrey Cui

Mae Audrey yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn MIT sy'n astudio Cyfrifiadureg a Gwybyddiaeth a Pheirianneg Fecanyddol. Mae ei phrofiadau addysgu blaenorol yn cynnwys cynorthwyo mewn Labordy Prosesu Signalau yn esbonio cysyniadau a chodau dadfygio, cynorthwyydd labordy Electronics for Mechanical Systems, a dysgu Saesneg i fewnfudwyr sy'n siarad Mandarin i'w cefnogi trwy frodori fel rhan o Ddinasyddiaeth Harvard Chinatown. Mae gan Audrey ddigonedd o brofiad ymchwil hefyd gan gynnwys gwaith fel Cynorthwyydd Ymchwil Israddedig MIT CSAIl, ac fel Intern Biowybodeg NVIDIA lle bu’n dylunio, gweithredu a meincnodi fframweithiau dysgu lled-oruchwyliaeth a hunan-oruchwyliaeth.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Mae’n diolch i un o fy athrawon ysgol uwchradd am fy helpu i ddarganfod fy nghariad at gyfrifiadureg, gan fy ngrymuso i ddefnyddio cod i wireddu fy syniadau gwallgof. Rwy’n dyheu am ddod yn athrawes am yr un rheswm—rwyf am feithrin perthnasoedd arwyddocaol gyda’m myfyrwyr, rhannu fy nghariad fy hun at ymchwil a darganfod, a’u hysbrydoli i ddilyn eu breuddwydion mwyaf.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwy'n eithaf hyderus am fy ngalluoedd fy hun yn y pynciau yr wyf am eu haddysgu, gan fy mod wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf o fewn labordy gweledigaeth gyfrifiadurol/dysgu dwfn ac yn treulio llawer o fy amser rhydd mewn siopau peiriannau a gofodau gwneuthurwr. Mae addysgu yn dod â llawer o lawenydd i mi, felly rydw i bob amser yn chwilio am gyfleoedd sy'n gysylltiedig ag addysgu ac o ganlyniad, wedi cael llawer o ymarfer gydag addysgu.

Cameron Kokesh

Mae Cameron yn ei phedwaredd flwyddyn yn MIT ar hyn o bryd yn cwblhau Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Fecanyddol ac yn astudio Amgylchedd a Chynaliadwyedd fel pwnc atodol. Mae ei phrofiad peirianneg ac arweinyddiaeth yn cynnwys gweithio fel Capten Tîm Cerbydau Trydan Solar MIT lle bu’n rheoli tîm adeiladu o 60 o bobl a redir gan fyfyrwyr gyda’r dasg o ddylunio, gweithgynhyrchu, profi a rasio cerbyd wedi’i bweru gan yr haul ar ras traws gwlad 2,000 o filltiroedd. Roedd hi hefyd yn ymgeisydd ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Peirianneg Gordon MIT (GEL), sef rhaglen addysgol sy'n canolbwyntio ar drawsnewid arweinyddiaeth peirianneg i ddatblygu arweinwyr technegol gyda'r gallu i fynd i'r afael â heriau peirianneg cymhleth y byd go iawn. Mae ei phrofiad dysgu yn cynnwys MISTI GTL fel hyfforddwr teithio a mentor ym Mecsico a hyfforddwr rhithwir ar gyfer Equal Education Partners yng Nghymru.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rwyf wrth fy modd yn cysylltu â myfyrwyr a dod o hyd i'r hyn sy'n eu cyffroi. Mae addysg mor ddylnwadol a gall greu dyfodol newydd. Byddwn wrth fy modd yn dod â phrofiadau arwyddocaol i fyfyrwyr a’u hysbrydoli yn y ffyrdd y cefais fy ysbrydoli drwy’r ysgol.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Yn MIT, rwyf wedi cryfhau fy strategaethau addysgu ymhellach trwy ddosbarthiadau a gweithio gyda myfyrwyr fel athrawes a mentor. Mae pob profiad wedi fy helpu i dyfu, ac rwy’n gyffrous ac yn frwdfrydig am greu amgylchedd a chwricwlwm a fyddai’n darparu profiad anhygoel i fyfyrwyr.

Christina Chen

Mae Christina yn fyfyrwraig yn y bedwaredd flwyddyn yn MIT gan gwblhau Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Fecanyddol gyda ffocws ar Cyfrifiadureg ac yn astudio Reolaeth fel pwnc atodol. Y tu allan i'w hastudiaethau, hi yw Is-lywydd Cyngor dosbarth 2023 MIT ac Is-lywydd Recriwtio yn Pi Beta Phi. Mae ei phrofiad gwaith yn cynnwys ei rôl fel Intern Peirianneg Datblygu Meddalwedd yn Amazon Web Services lle bu’n dylunio seilwaith cod blaen a chefn ar gyfer GUI, wedi’i addasu i randdeiliaid ac wedi gweithredu ap gwe graddadwy, ffurfweddadwy sy’n cynhyrchu ymholiadau i ddatrys gwybodaeth log. Mae ei phrofiadau addysgu yn cynnwys gwaith yn Phillips Brooks House Association Chinatown Citizenship, lle cynlluniodd gwricwlwm a dysgodd brawf dinasyddiaeth UDA i 8 o henoed Tsieineaidd. Mae Christina hefyd wedi mentora aelodau clwb MIT ar arferion cyfieithu yn seiliedig ar brofiad cyfieithu ar y tro.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Grymuso pobl ifanc sydd heb ddigon o adnoddau efo gwybodaeth, fel y gallant ddewis llwybrau bywyd y byddent yn mwynhau cymryd rhan ynddynt.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Fel myfyrwraig coleg cenhedlaeth gyntaf, rwy'n deall y rhwystrau i fynediad, felly gallaf ymgysylltu ag eraill o gefndiroedd tebyg. Mae gen i wybodaeth ryngddisgyblaethol o fy mhrofiadau dosbarth ac interniaeth mewn peirianneg fecanyddol a meddalwedd; gan fy ngalluogi i gysylltu a chymhwyso i ddatrys problemau.

Grace Endy

Mae Grace yn fyfywraig ail flwyddyn sy'n astudio ar gyfer Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Gemegol-Biolegol. Y tu allan i’w hastudiaethau mae Grace yn gynorthwyydd ymchwil i’r UROP-Conflicts in Renewable Energy lle mae’n archwilio gwrthwynebiad y cyhoedd i brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa cyfleustodau yn yr Unol Daleithiau, yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid ac yn ysgrifennu erthyglau ymchwil ac astudiaethau achos. Mae hi hefyd yn Fentor Cymheiriaid Preswyl ac yn cynnig arweiniad academaidd a phersonol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf MIT. Ei phrofiad gwaith olaf oedd fel Intern Gwyddor Hinsawdd ar gyfer Cronfa Amddiffyn yr Amgylchedd. Yma, roedd ei dyletswyddau’n cynnwys meintioli a chymharu effeithlonrwydd ynni technolegau hydrogen a thrydan ac adeiladu cronfa ddata capasiti ynni adnewyddadwy ar gyfer sampl byd-eang o genhedloedd.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rwy'n angerddol am gyfathrebu gwyddonol, yn mwynhau rhyngweithio rhyngbersonol ac yn dymuno lledaenu gwybodaeth am bynciau o ddiddordeb i ddysgwyr.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwy'n siaradwr cyhoeddus hyderus iawn ac wedi mwynhau helpu fy ffrind gyda PSETau. Creais fideos addysgol hefyd ar gyfer KIF1A.ORG yn 2020-2021.

Max Tan

Mae Max yn fyfyriwr ail flwyddyn yn MIT yn astudio Ffiseg a Pheirianneg Drydanol a Chyfrifiadureg. Bu'n gweithio fel Ymchwilydd Israddedig ar gyfer Ymchwil Electroneg Cyfrifiaduro Cwantwm lle profodd ddyluniad cryogenig o gyplu cwbitau uwch-ddargludo gyda chwarton i wella ailddarlleniad cwbit-cyseinydd. Roedd hefyd yn Ymchwilydd Israddedig ar gyfer Ymchwil Bioffiseg yn Fakhri Lab MIT lle datblygodd rwydwaith niwral dwfn heb oruchwyliaeth i ddysgu cynrychioliadau atgynhyrchadwy a dehongliadwy o systemau mater gweithredol. Y tu allan i'w astudiaethau mae ei ddiddordebau'n cynnwys y celfyddydau perfformio a dadlau. Max yw Prif Soddgrydd yn MIT Symphony Orchestra, perfformiwr tŷ coffi brwd a chyd-sefydlodd raglen drafod i ddysgu sgiliau dadlau byrfyfyr i myfyrwyr ysgol lleol.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Mewn ychydig wythnosau, dwi'n gobeithio ysbrydoli pobl ifanc yn fwy na dim byd arall. Rwyf am i fyfyrwyr ddechrau gweld STEM nid yn unig fel set o hafaliadau mathemateg diflas, ond pwnc sy'n cyffroi ac yn ysgogi'r meddwl. Rwyf hefyd yn gobeithio ffurfio cysylltiadau parhaol gyda'r myfyrwyr rwy'n eu haddysgu gan groesi'r ffin ddiwylliannol ac ieithyddol.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Un o fy nghryfderau yw gallu dadansoddi syniadau mathemategol (h.y. mewn ffiseg) a’u hegluro mewn modd symlach a haws ei ddeall. Fel myfyriwr ymchwilydd, gallaf danlinellu pwysigrwydd datrys problemau a chreadigedd. Mae hefyd gen i lawer o brofiadau Ddadl a Siarad Cyhoeddus ers ysgol uwchradd yr wyf yn gobeithio ei rannu. Rwy’n cael fy ysgogi’n bennaf gan yr egni a’r brwdfrydedd rydw i wedi dysgu ei gyfrannu at addysgu dros y blynyddoedd!

Melissa Hill

Mae Melissa yn fyfyrwraig yn y bedwaredd flwyddyn ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Baglor yn y Gwyddorau mewn Astudiaethau Trefol a Chynllunio a Rheolaeth. Mae gan Melissa ystod o brofiad addysgu; bu'n gweithio i Adran Astudiaethau Trefol a Chynllunio MIT, gan gefnogi cyflwyniad yr hyfforddwr o'r cwricwlwm ystadegau trwy gyd-arwain llefaru a chynnal oriau swyddfa gan gwmpasu egwyddorion rhesymu meintiol a rhaglennu R. Cymerodd ran hefyd yn rhaglen MIT Global Taching Labs yng Nghymru yn 2022 fel hyfforddwr o bell lle bu’n cynllunio ac yn addysgu gwersi i fyfyrwyr ysgol uwchradd mewn cydweithrediad â’i ysgolion cynnal. Bu hefyd yn intern gyda Takeda Pharmaceuticals, lle bu’n arwain datblygiad rhaglen ymgysylltu yn canolbwyntio ar adeiladu cronfa dalent, ymgysylltu â gweithwyr mewn rhoddion dyngarol a throsoli adnoddau i dyfu rhaglen Corporate Social Responsibility and Philanthropy yr Unol Daleithiau.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rwyf am rymuso myfyrwyr i adeiladu'r dyfodol y maent ei eisiau ac i gyflawni prosiectau arwyddocaol. Rwy'n croesawu'r cyfrifoldeb o arwain myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu fel meddylwyr beirniadol.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwyf wedi datblygu fy set sgiliau addysgu trwy gymryd rhan yn rhaglen y llynedd a dysgu myfyrwyr MIT ac oedolion yn y gymuned. Y tu hwnt a thrwy gydol y profiadau hyn, rwyf wedi ennyn brwdfrydedd dros wneud yr hyn a allaf i gefnogi myfyrwyr, hyd yn oed os yw hynny'n golygu newid cyfeiriad yn gyflym.

Morgan Mayborne

Mae Morgan yn fyfyriwr yn y bedwaredd flwyddyn yn MIT ar hyn o bryd yn cwblhau ei Faglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Fecanyddol. Morgan yw Cydsylfaenydd Prosiect Cronfa Arloesi Sandbox MIT lle datblygodd sgiliau mewn perchnogaeth prosiect, iteriad dylunio, a dadansoddi'r farchnad trwy arwain syniad prosiect trwy gamau cychwynnol entrepreneuriaeth. Mae ei brofiad addysgu yn cynnwys cynorthwyydd addysgu yn Rhaglen Arweinyddiaeth Peirianneg Gordon MIT lle bu’n cynorthwyo gyda threfnu dosbarthiadau a graddio aseiniadau ar gyfer y cwrs Arweinyddiaeth Peirianneg a darparu awgrymiadau cwricwlwm ar gyfer hyfforddwr y dosbarth, yn seiliedig ar adborth personol ac adborth myfyrwyr. Roedd hefyd ar Fwrdd Gweithredol DynaMIT fel Arweinydd Cwricwlwm Cemeg ac Arweinydd Cysylltiadau Myfyrwyr lle bu’n recriwtio a mentora myfyrwyr ymylol lleol yn ardal Boston, gan feithrin diddordeb mewn proffesiynau STEM trwy gynllunio cwricwla rhaglenni a gweithgareddau i fyfyrwyr.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Mae fy athrawon wedi fy natblygu i fod y person yr ydw i heddiw. Mae addysgu yn ffordd bwerus o roi lens newydd i fyfyrwyr i allu gweld y byd. Rwyf am allu darparu'r lens newydd honno i fyfyrwyr trwy gyflwyno neu atgyfnerthu cysyniadau sydd wedi dod yn hanfodol i fy ngyrfa.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwyf wedi cymryd rhan yn DynaMIT trwy gydol fy amser yn MIT. Datblygais ac addysgais y diwrnod cemeg ar gyfer y rhaglen STEM, gan addysgu'r myfyrwyr lleol am egwyddorion cemeg trwy gwricwlwm hunanddatblygedig. Mae DynaMIT wedi rhoi cyflwyniad i mi ar ddatblygu cwricwlwm a meddwl am y myfyrwyr wrth gynllunio gwersi. Rwyf hefyd yn gyffrous i fod o gwmpas myfyrwyr addawol bob dydd!

Sarah Hernandez

Mae Sarah yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn astudio ar gyfer ei Baglor mewn Peirianneg Gemegol yn MIT. Mae ei harweinyddiaeth a’i phrofiad gwaith blaenorol yn cynnwys gwaith yng Nghymuned Ddysgu Terrascope lle’r oedd Sarah yn Gymrawd Addysgu Israddedig, yn Gynghorydd Cyswllt, ac yn Gynrychiolydd Clymblaid Cynaliadwyedd Myfyrwyr. Yn y rôl hon datblygodd gynnig cynhwysfawr i wella cynaliadwyedd cludo nwyddau byd-eang wrth ystyried economeg a ecwiti, cynhyrchu gwefan a chyfarwyddo a chefnogi myfyrwyr yn 12.000 – cwrs Datrys Problemau Cymhleth yn MIT. Roedd hi hefyd yn Gynghorydd Rhaglen Rhag-Cyfeiriadedd Blwyddyn Gyntaf ar gyfer Menter Ynni MIT lle byddai'n hwyluso cyflwyniad i gyfleoedd academaidd a gyrfaol o fewn y sector ynni glân i fyfyrwyr MIT newydd.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: I ymarfer sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol i helpu myfyrwyr i ddysgu orau. Hefyd, i ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd mewn STEM, yn benodol o fewn y maes ynni/hinsawdd a magu hyder yn y cynnwys a addysgir mewn dosbarthiadau.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwy'n amyneddgar ac mae gennyf ymarweddiad dealladwy, yn angerddol ac yn frwdfrydig am faterion pwnc ac yn dod o gefndir amlddiwylliannol (Puerto Rican a Phacistanaidd) rwy'n gyfforddus â chroesi llinellau o wahaniaeth.

Shinjini Ghosh

Mae Shinjini yn cwblhau gradd Meistr mewn Peirianneg mewn Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial yn MIT. Yn ddiweddar cwblhaodd ei Baglor yn y Gwyddorau mewn Cyfrifiadureg a Pheirianneg ac Ieithyddiaeth, gyda Mathemateg fel pwnc atodol. Mae Shinjini wedi internio yn Hudson River Trading (Efrog Newydd) fel Intern Datblygwr Algorithm, yn Tower Research Capital (Efrog Newydd) fel Intern Masnachu Meintiol ac yn DE. Shaw & Co. (Efrog Newydd) fel Intern Ymchwil Meintiol. Mae Shinjini hefyd yn gweithio fel Ymchwilydd Israddedig i Labordy Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial MIT ac yn MIT Linguistics fel Ymchwilydd Israddedig. Y tu allan i'w hastudiaethau, mae'n Llysgennad Myfyrwyr i MIT, yn Llywydd Cymdeithas Cynfyfyrwyr Myfyrwyr, yn Aelod Gweithredol o Fenywod yn EECS ac yn aelod o'r Gymdeithas Israddedig i Fenywod mewn Mathemateg.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Rwyf wrth fy modd yn gallu rhannu a rhannu fy ngwybodaeth ag eraill, a gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Rwyf hefyd yn credu bod addysgu yn helpu'r athro i gynyddu ei wybodaeth ei hun o'r pwnc dan sylw trwy drafodaethau ystyrlon gyda myfyrwyr. Rwy'n mwynhau treulio amser yn dylunio deunyddiau dosbarth a helpu myfyrwyr.

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan mewn trafodaethau angerddol gyda myfyrwyr, a gallu eu harwain i'r cyfeiriad cywir gyda chyfarwyddiadau wedi'u hamseru'n dda ac yn fanwl gywir. Mae’n fy nghyffroi i’w gweld yn gallu cyfrifo’r gweddill a pharhau o’r fan honno, ac i allu rhannu fy nghariad at y pynciau gyda nhw.

Zoe Gotthold

Mae Zoe yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT yn gwneud ei Baglor yn y Gwyddorau mewn Cyfrifiadureg a Bioleg Foleciwlaidd gyda Ffocws ar Atal Pandemig. Mae ei phrofiad gwaith yn cynnwys Interniaeth Ymchwil mewn Dadansoddi Microbiomau a gweithio fel Tiwtor Cyfrifiadureg yn Rhaglen Merched mewn Technoleg MIT. Mae Zoe wedi gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu mewn Cyfrifiadureg yn MIT, a Chynorthwyydd Addysgu ar gyfer Calcwlws Amrywiol a Hafaliadau Gwahaniaethol trwy Grŵp Astudio Arbrofol MIT, sy'n canolbwyntio ar ddysgu gan fyfyrwyr eraill. Mae Zoe wedi gwirfoddoli mewn nifer o sefydliadau gan gynnwys MIT SHINE lle bu’n athrawes a mentor Mathemateg i ferched a myfyrwyr anneuaidd mewn sesiynau tiwtora wythnosol, MIT Medlinks fel cynghorydd iechyd cymheiriaid a hefyd mewn grŵp gwasanaeth cerdd o’r enw Ribotones lle gwnaeth recordio Basŵn a golygu darnau siambr ar gyfer cyngherddau rhithwir a phersonol mewn cartrefi nyrsio.

C: Pam ydych chi eisiau addysgu?

A: Mae angen mwy o wyddonwyr arnom, ac yn enwedig gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol. Nid yw hynny'n dechrau yn y coleg: mae'n dechrau pan fydd plant yn gyffrous am wyddoniaeth. Rwyf am rannu fy nghyffro ymchwil fy hun gyda'r myfyrwyr hyn!

C: Pam fyddech chi'n gweithio'n dda fel hyfforddwr GTL yng Nghymru?

A: Mae gen i brofiad addysgu, rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr ac rydw i'n hynod angerddol am fioleg gyfrifiadol. Fy nod yw lledaenu llawenydd gwyddoniaeth.

Oes diddordeb gennych i ymuno â’n tîm?

Os yr ydych yn fyfyriwr STEM (israddedig neu ôl-raddedig) mewn prifysgol yng Nghymru ac yr hoffech chi ddysgu ochr yn ochr â hyfforddwyr eraill ar draws y byd trwy'r rhaglen Global Teaching Labs yn 2022, cysylltwch â Equal Education Partners.