Arloesi mewn Addysg ac Addysgu Heddiw

mewn cydweithrediad gyda Rhaglen Addysg Athrawon Scheller MIT

Ceisiadau ar gyfer Arloesi mewn Addysg ac Addysgu Heddiw 2026 nawr ar agor!

Arloesi & datblygu.

Cyfoethogi & grymuso.

Yn y gyfres hon o weithdai bydd carfan o addysgwyr sy’n frwd dros arloesi a datblygu eu crefft yn archwilio amrywiaeth o offer a thechnegau addysgu a all gyfoethogi ystafelloedd dosbarth a grymuso myfyrwyr. Ymhlith y pynciau i'w cwmpasu mae technolegau addysgol sy'n creu posibiliadau newydd ar gyfer dysgu, dulliau addysgu myfyriwr-ganolog sy'n meithrin creadigrwydd a meddwl dylunio, dulliau arall o asesu, a mwy.

Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal gan Greg Schwanbeck, darlithydd Theori ac Ymarfer Addysgol yn Rhaglen Addysg Athrawon Scheller Sefydliad Technoleg Massachusetts, ac athro Ffiseg a Hyfforddwr Technoleg Addysgiadol yn Ysgol Uwchradd Westwood.

Amlinelliad o'r Rhaglen

Dyddiadau: Dydd Llun 12fed Ionawr - Dydd Llun 19eg Chwefror 2026

Amser: 8:00-9:00yh

Lleoliad: Ar-lein/Zoom

Cliciwch yma i wneud cais ar gyfer Ionawr 2026

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Addysg sy’n cael eu gyrru gan Ymholiadau.

  • Y Dull Modelu mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thu Hwnt.

  • Dysgu Seiliedig ar Brosiect: Dylunio a Gweithredu Profiadau go iawn.

  • Y Model SAMR a Thechnolegau sy’n Ailddiffinio'r Ystafell Ddosbarth.

  • Fframwaith ar gyfer Gwerthuso Technolegau Addysgol.

  • Ailfeddwl Gwaith Cartref a Fflipio'r Ystafell Ddosbarth.

Greg Schwanbeck, Darlithydd, Rhaglen Addysg Athrawon Scheller, MIT & Athro Ffiseg a Seryddiaeth, Massachussetts

“Rwyf wrth fy modd yn addysgu! Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio yn Ysgol Uwchradd Westwood (Massachusetts) fel Athro Ffiseg a Seryddiaeth ac fel Hyfforddwr Technoleg Addysgiadol, gyda'r dasg o helpu fy nghydweithwyr i fanteisio ar raglen Chromebook 1-i-1 ein hardal. Rwyf hefyd yn Ddarlithydd ar gyfer Rhaglen Addysg Athrawon Scheller (STEP) Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) lle rwy'n addysgu Theori ac Ymarfer Addysgol I, II, a III.

Rwy'n Gymrawd Athrawon Fulbright ar gyfer Ystafelloedd Dosbarth Byd-eang, yn dderbynnydd Gwobr Addysgu MIT Levitan, yn Addysgwr Nodedig Apple, yn Addysgwr Ardystiedig gan ISTE, yn Addysgwr Google, ac yn arweinydd rhanbarthol mewn darparu datblygiad proffesiynol sy'n canolbwyntio ar edtech. Mae fy nulliau addysgu a’m meddyliau ar dechnoleg addysgol wedi cael sylw cenedlaethol mewn cyhoeddiadau fel The Huffington Post, EdSurge, a’r llyfr American Teacher: Heroes in the Classroom gan Katrina Fried.

Enillais fy ngradd meistr trwy'r rhaglen Technoleg, Arloesedd ac Addysg ym Mhrifysgol Harvard ac enillais fy ngraddau baglor mewn Ffiseg a Mathemateg yng Ngholeg yr Undeb. Pan nad ydw i’n dysgu dwi’n mwynhau chwilio am antur gyda fy ngwraig anhygoel Keba a’n dau fab, Taylor a Thomas.”

Ydych chi am archwilio a datblygu amrywiaeth o offer a thechnegau addysgu i gyfoethogi eich ystafelloedd dosbarth a grymuso eich dysgwyr?

Cliciwch yma i wneud cais ar gyfer Ionawr 2026

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Dydd Gwener 28ain o Dachwedd 2025