Stori Lindsey: Mynychu Rhaglen SEPT gan MIT
Wedi’i ysgrifennu gan Lindsey Dawson, Rheolwr Dysgu Proffesiynol ac e-ddysgu Equal Education Partners.
Mae Rhaglen Gwyddoniaeth a Pheirianneg MIT ar gyfer Athrawon (SEPT) wedi bod yn rhedeg ers 1989, a bob blwyddyn mae'n gwahodd carfan o athrawon o bob cwr o'r byd i MIT. Mae athrawon yn cymryd rhan mewn darlithoedd gan wyddonwyr blaenllaw yn eu maes gan roi cynnig ar y dechnoleg ddiweddaraf, ac maent yn cael cyfle i rwydweithio â grŵp o addysgwyr arloesol am yr wythnos. Oherwydd y pandemig, roedd cyfyngiadau yn golygu bod yn rhaid symud rhaglen 2020 a 2021 ar-lein.
Fel athrawes gwyddoniaeth a Rheolwr Dysgu Proffesiynol Equal Education Partners, roeddwn yn hynod gyffrous a breintiedig i fanteisio ar y cyfle i fynychu rhaglen 2020 a gafodd ei haildrefnu mewn person ar gyfer 2022. Nid yn unig yw mynychu’r rhaglen wedi rhoi cyfle i ni gryfhau ein partneriaeth â MIT, ond mae hefyd wedi darparu cyfoeth o adnoddau i’w rhannu ag athrawon STEM eraill yng Nghymru. Os ydych yn athro STEM, ni ddylid colli cynnwys y sesiynau hyn. Mae'n amhosib rhoi sylw i bopeth o'r wythnos mewn un post, ond daliwch ati i ddarllen er mwyn cael blas ar fy nghyfnod yn yr UDA gyda rhai dolenni defnyddiol.
Amlygiad Rhyngwladol
Teithiodd athrawon o bob rhan o’r UDA, yr Almaen, Sbaen a Chymru i fynychu'r rhaglen. Cawsom ein gosod mewn neuaddau myfyrwyr am yr wythnos (roeddem yn rhannu ystafelloedd – gwir flas ar fywyd myfyrwr yn yr Unol Daleithiau?!). Cawsom gyfle heb ei ail i rwydweithio a rhannu profiadau o addysg STEM tra hefyd yn mwynhau ychydig o amser rhydd drwy edrych o gwmpas Caergrawnt, MA.
Gan ddychwelyd i’r fformat o gyflwyno mewn person yn hytrach nag ar lein, roedd cyfle i gryfhau’r cydberthnasau a adeiladwyd yn ystod y fersiwn ar-lein o’r rhaglen yn 2020, a rhoddodd gyfle i rai newydd ddatblygu'n organig yn ystod ein hamser yno. Fe wnaethom rannu profiadau o wahanol systemau addysg a, drwy hynny, fe ysgogwyd lawer o syniadau y gallem eu defnyddio yn ein gwledydd cartref.
Adnoddau Trawsnewidiol
Roedd y sesiynau’n gymysgedd o weithdai ymarferol, darlithoedd gan athrawon ac ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau, a hyd yn oed noson yn Amgueddfa Wyddoniaeth Boston! Cawsom daith o amgylch yr arddangosfa antur arctig a dylunio peirianyddol, cyn mwynhau ychydig o fwyd, gwin, a golygfeydd dros Boston yn ein gweithdy preifat am y broses dylunio peirianyddol.
Mae enghreifftiau o sesiynau eraill yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Pam dysgu Cemeg a Bioleg? Yr Athro Catherine Drennan, Sefydliad Meddygol MIT Howard Hughes.
Cliciwch yma am adnoddau a ddatblygwyd gan y labordy hwn sy'n cysylltu cysyniadau gwerslyfrau cemeg ag ymchwil cyfredol.
Cliciwch yma am fwy o adnoddau cemeg rhad ac am ddim.
Newid y byd un Ap ar y tro – MIT App Inventor, yr Athro Hal Abelson, Adran Peirianneg Drydanol a Chyfrifiadureg
Mae gan MIT App Inventor nôd o ddemocrateiddio datblygiad apiau yn fyd-eang. I wneud hynny, anelir yr app i gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â heriau gydag atebion a all effeithio eich bywyd, teulu, ffrindiau, cymuned, a hyd yn oed eich dinas ac eich gwlad. Gall unrhyw fyfyriwr wneud yn union hynny a chael effaith wirioneddol. Mae pŵer cyfrifiadurol dyfeisiau symudol a seilwaith byd-eang yn caniatáu i hyn ddigwydd.
RAICA - AI Cyfrifol am Weithredu Cyfrifiadurol. Mae'r cwricwlwm AI Cyfrifol am Weithredu Cyfrifiadurol (RAICA) yn cynnwys modiwlau dysgu sy’n seiliedig ar brosiectau sy'n paratoi myfyrwyr ysgol i fod yn ddefnyddwyr gwybodus ac yn gynhyrchwyr moesegol AI.
Dynwaried gweithredu hinsawdd EN-ROADS. ‘Mae ymchwil yn dangos nad yw cyflwyno ymchwil i bobl yn gweithio’ - Yr Athro John Stern. Mae Menter Cynaliadwyedd MIT SLOAN wedi datblygu model ar-lein am ddim o'r enw EN-ROADS. Yn gyffredinol, mae’n modelu effaith gwneud newidiadau i wahanol gamau gweithredu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang.
Gemau ar gyfer dysgu - Yr Athro Eric Klopfer, Rhaglen Addysg Athrawon Scheller (STEP) a Phennaeth Adran Astudiaethau Cyfryngau Cymharol ac Ysgrifennu yn MIT
Sut mae planhigion yn dod â golau haul yn fyw - defnyddio gwersi o fioleg planhigion i sicrhau cynaliadwyedd ecolegol a gwytnwch cnydau, Dave Des Marais - Biolegydd Planhigion, Athro Cynorthwyol Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol MIT
Defnyddio balŵns tywydd a chiwbiau lloerennau-nano i ddysgu am archwilio'r gofod
Yn ogystal â’r sesiynau a ddarparwyd, cawsom daith gerdded opsiynol o gampws MIT a phenderfynodd nifer ohonom i dywys ein hunain ar un o nosweithiau hyfryd yr haf. Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd ag un o'n hyfforddwyr GTL, Melissa, yn ystod un noson; rhoddod gipolwg y tu ôl i'r llenni i mi yn ei hadeilad ar y campws. Diolch, Melissa!
Ni allaf argymell y rhaglen hon ddigon. Roedd yn wirioneddol drawsnewidiol, ac mae’r cyfoeth o adnoddau a roddir wedi ysbrydoli cynlluniau mawr ar gyfer ein gwaith ym maes addysg STEM yng Nghymru.
Beth nesaf?
Edrychwch ar rai o'r cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim a gynigir gan MIT Open Learning Library. Ymhlith y teitlau mae: dysgu ar-lein i addysgwyr; dod yn addysgwr tecach; a gweithredaeth ieuenctid.
Beth am wneud cais am SEPT 2023? Os hoffech chi gymryd rhan yn SEPT 2023, cysylltwch â Equal Education Partners am ragor o wybodaeth.
Anfonwch e-bost i Lindsey Dawson, Rheolwr Dysgu Proffesiynol Equal Education Partners: lindsey.dawson@equaleducationpartners.com