Stori Laura
Wrth i ni gynllunio ymlaen at GTL yng Nghymru 2023 a thu hwnt, yn ddiweddar wnaethom ddal i fyny â Laura Schmidt-Hong, addysgwr o garfan GTL yng Nghymru 2022, am ei phrofiadau drwy’r fenter. Daliwch ati i ddarllen i ddysgu mwy o'n trafodaeth!
Dywed ychydig wrthym amdano dy hun a dy daith drwy addysg hyd yn hyn!
Dwi’n dod yn wreiddiol o Iowa, ond dwi wedi byw yn ardal Boston ers pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd! Rwyf bellach yn fyfyrwr yn MIT ac yn canolbwyntio ar beirianneg fiolegol tra hefyd yn astudio gwyddorau’r ymennydd a gwybyddol. Trwy fy addysg hyd yn hyn, rwyf wedi cynnal ymchwil ym meysydd imiwnoleg a niwrowyddoniaeth. Daw peth o'r profiad ymchwil hwn o fy swydd fel Ymchwilydd Israddedig yn y Koch Institute for Cancer Research yn ogystal â thrwy fy swydd Ymchwilydd Israddedig yn y McGovern Institue for Brain Research. Rwy'n bwriadu mynychu ysgol raddedig ar ôl cwblhau fy astudiaethau yn MIT. Y tu allan i’r dosbarth, rydw i ar bwyllgor papur newydd MIT sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr!
Beth yw dy rôl di o fewn gwaith GTL yng Nghymru?
Fel hyfforddwr GTL yng Nghymru yn 2022, rwy’n paratoi ac arwain gwersi ar bynciau sy’n ymwneud â bioleg, cemeg, seicoleg, a chyfrifiadureg. Hyd yn hyn, mae rhain wedi cynnwys sesiynau ar sganiau ymennydd, Python, cemeg organig, a CRISPR. Ar ben hynny, rydw i wedi cael fy mharu gyda Grŵp Llandrillo Menai, coleg Addysg Bellach yng Ngogledd Cymru, ac wedi bod yn cyflwyno sesiynau yn fyw ar-lein i ddysgwyr yn y Coleg. Fel arfer yn annibynnol, ond ar adegau mewn cydweithrediad â hyfforddwyr eraill, rwyf wedi bod yn paratoi prosiectau a gweithdai anghydamserol i’w defnyddio gan ddysgwyr ar draws ysgolion mewn partneriaeth â GTL yng Nghymru.
Oes gen ti hoff sesiwn?
Fy hoff sesiwn oedd y dosbarth gyflwynais ar y gwahanol dechnegau a ddefnyddir ar gyfer sganiau ymennydd. Cyflwynais y sesiwn hon yn gydamserol i ddysgwyr seicoleg Grŵp Llandrillo Menai a mwynheais y broses o baratoi'r wers a'r gweithgareddau rhyngweithiol. Roeddwn hefyd yn ddiolchgar o gael y cyfle i ryngweithio'n fyw gyda dysgwyr a'u gweld yn deall y mecanweithiau a'r gwahaniaethau rhwng gwahanol dechnolegau sy'n berthnasol i’r pwnc!
Sut wyt ti wedi ymdopi â’r cyfuniad o addysgu ar-lein a mewn person?
Ar y funud, rydw i - a'r rhan fwyaf o fyfyrwyr eraill - yn hapus i fod wedi dychwelyd i ddysgu mewn person. Mae cymaint o haenau o ddysgu ac addysgu na ellir eu hymarfer drwy blatfformau ar-lein: mae’n anoddach mesur lefelau dealltwriaeth mewn ystafell ddosbarth a chysylltu ar lefel fwy personol â’ch cyfoedion. Ymhellach, gan fy mod i hefyd yn fyfyrwr yn ystod y pandemig, roeddwn i eisoes yn deall heriau dysgu ar-lein, ond fe wnaeth cymryd rhan yn GTL yng Nghymru fy ngalluogi i ddeall y technegau mwyaf effeithol ac i wneud y gorau o ddysgu ar-lein o ochr arall y broses o ddysgu. Er hynny, mae yna ambell fantais o ddysgu ar-lein gan gynnwys y mewnwelediadau rydym wedi’u datblygu am sut i wneud gwersi’n fwy cyfareddol a’r ffaith bod cysylltu â myfyrwyr ar-lein yn gallu gwneud gwersi mewn person yn fwy atyniadol ac effeithiol.
A oes gen ti unrhyw gyngor i fyfyrwyr sydd am wneud cais am raddau yn dy feysydd pwnc?
Yn bwysicach na dim, mae’n hynod bwysig i ymchwilio y gwahanol feysydd o fewn eich maes (neu feysydd) o ddiddordeb! Er mwyn darganfod beth yr rydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi, mae angen rhoi cynnig ar ddosbarthiadau, ymchwil, a gweithgareddau gwahanol er mwyn gweld beth sydd gennych ddawn ynddo! Mae hyn yn arbennig o wir yn achos myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gradd o fewn disgyblaethau STEM – ni ddylech ddiystyru pwysigrwydd meysydd eraill (fel y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol) gan fod y sgiliau a ddatblygir yn y traciau academaidd hynny yn hollbwysig ac, mewn gwirionedd, yn hynod drosglwyddadwy i'ch prif bynciau o ddiddordeb.