Stori Daniel

Ar ôl bod yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â Laura Schmidt-Hong am ei phrofiadau gyda GTL yng Nghymru, cawsom y cyfle i siarad â Daniel Zhang, dysgadwr arall o garfan GTL yng Nghymru 2022, am ei brofiadau drwy'r fenter. Gan ganolbwyntio ar adeiladu ymhellach ar ei brofiadau addysg yn y gorffennol, a’i egwyddorion o ddysgu ymarferol yn gydnaws ag egwyddorion addysg GTL yng Nghymru, mae Daniel wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu sesiynau a gweithdai ar gyfer y rhaglen ar draws Cymru. Daliwch ati i ddarllen i ddysgu mwy am sut mae Daniel yn rhan o'r rhaglen drawsnewidiol hon!

Dywed ychydig wrthym amdano dy hun a dy daith drwy addysg hyd yn hyn!

Helo! Fy enw i yw Daniel, ac yn ddiweddar graddiais o MIT yn y Gwyddorau Biolegol. Rwy'n dod yn wreiddiol o San Diego, California, ac rwy'n wirioneddol angerddol am ymchwil wyddonol ac allgymorth STEM. Drwy gydol fy amser yn MIT, fe gynhaliais ymchwil wyddonol yn y Professor Tyler Jacks’ Lab at the Koch Institute for Integrative Cancer Research, gan helpu ddatblygu modelau genetig o ganser. Yn ystod fy nghyfnod yno, fe weithiais fel cyd-gyfarwyddwr dynaMIT, sefydliad allgymorth STEM sy'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr difreintiedig yn Ardal Boston i ddilyn gwyddoniaeth trwy weithgareddau ymarferol. Rwyf hefyd wedi cyd-sefydlu sefydliad dielw, Future African Scientist, sy'n ymroddedig i ddarparu mentoriaeth a'r sgiliau ymchwil sylfaenol i wyddonwyr a pheirianwyr y dyfodol yn Affrica. Yn fy amser rhydd, rwy'n mwynhau teithio, chwarae a gwylio pêl-fasged, a gwrando ar lyfrau sain!

Beth yw dy rôl di o fewn gwaith GTL yng Nghymru?

Trwy Labordai Addysgu Byd-eang MIT, rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda dwy ysgol anhygoel: Garth Olwg a Choleg Caerdydd a’r Fro. Yn fwy penodol, bûm yn helpu i arwain darlithoedd rhyngweithiol ar bynciau ffisioleg ddynol, cemeg, a’r gwyddorau amgylcheddol i ddisgyblion yr ysgolion (Blwyddyn 5 i Flwyddyn 13). Yn hytrach na chanolbwyntio ar ddysgu ar y cof, anogais y dysgwyr i feddwl yn feirniadol am y pynciau amrywiol, a sut maent, yn y pen draw, yn ymwneud â’r byd o’n cwmpas ni. Roeddwn yn gyffrous i barhau i annog defnydd arwyddair MIT o ddysgu trwy “mens et manus” i ddod o hyd i dir cyffredin gyda’r dysgwyr a’u hysbrydoli i ddysgu mwy!

Oes gen ti hoff sesiwn?

Mae hwn yn un anodd gan fy mod wrth fy modd yn gweithio gyda'r holl ddysgwyr a dosbarthiadau. Fodd bynnag, un sy'n arbennig o amlwg oedd sesiwn a roddais ar fioamrywiaeth. Trwy’r sesiwn hon, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am fioamrywiaeth y ddaear, ffyrdd o fesur amrywiaeth (e.e. mynegai cyfatebol Simpson), yn ogystal â’r bygythiadau i fioamrywiaeth. Roedd gan y dysgwyr ddiddordeb mawr, ac roeddent yn gofyn cwestiynau gwych. Roedd yn galonogol iawn i weld sut yr oeddent yn ymdrin â phwnc gweddol newydd iddynt, a hyd yn oed yn meddwl am eu syniadau eu hunain ar y diwedd ar sut y gallai rhai newidiadau ffordd o fyw fod o gymorth yn ein hymdrech fyd-eang yn erbyn colli bioamrywiaeth. Uchafbwynt arall y rhaglen oedd cymryd rhan ym Mhodlediad Spotify Caerdydd a’r Fro “The Voice,” gan drafod pwysigrwydd cydweithio byd-eang ym maes cynaliadwyedd. Gallwch ddod o hyd i ddolen i'r podlediad yma: https://open.spotify.com/episode/1eI5XiZMNTUhmPmuuSPDbM?si=2b5229b0dbc847fa

Sut wyt ti wedi ymdopi â’r cyfuniad o addysgu ar-lein a mewn person?

Heb os nac oni bai, mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar bob un ohonom. Er hynny, fe gododd gyfle drwy’r pandemic i wella ein seilwaith addysgu ar-lein. Er bod rhaglen bersonol GTL yng Nghymru wedi’i chanslo oherwydd yr amrywiad omicron, roeddwn i’n teimlo’n ffodus iawn i barhau i fentora ar-lein trwy Zoom a Teams. Credaf ei bod hi’n anodd iawn ymdopi rhai o’r technegau a ddefnyddir yn y dosbarth mewn sesiynau ar-lein, megis dynameg gwaith grŵp, addysgu rhyngweithiol, a’r natur bersonoledig o fod mewn ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, roedd yn anhygoel gweld faint o agweddau oedd yn dal i allu cael eu mabwysiadu gan y platfform rhithwir. Roedd rhai manteision craidd i'r gosodiad rhithwir, megis y cyfle i fyfyrwyr sydd fel arfer yn fwy swil i gymryd rhan trwy'r blwch sgwrsio. Ar y cyfan, rwy’n credu bod y newid o addysgu ar-lein i addysgu personol wedi llwyddo i ryw raddau, ac rwy’n hynod o hapus bod llawer o’r myfyrwyr wedi gallu dysgu mwy am wahanol bynciau yn fy nisgyblaeth o ddiddordeb.

A oes gen ti unrhyw gyngor i fyfyrwyr sydd am wneud cais am raddau yn dy feysydd pwnc?

Fel myfyriwr bioleg a darpar wyddonydd meddyg, byddwn yn annog myfyrwyr i aros yn chwilfrydig bob amser ac i chwilio am gyfleoedd i ddysgu mwy am y pwnc. Er enghraifft, byddwn yn argymell yn fawr iddynt ddilyn rhai gweithgareddau yn y labordy. Drwy gamu i mewn i labordy ymchwil, cefais y cyfle i ymdopi’r cysyniadau a ddatblygwyd yn y dosbarth i arbrofion yn y byd go-iawn – a meddwl am gwestiynau nad oes neb arall yn y byd wedi’u gofyn o’r blaen. Mae sgiliau dadansoddi cryf hefyd yn ddefnyddiol wrth ddilyn gradd yn y gwyddorau biolegol, gan y bydd hyn yn eich galluogi i ddadansoddi cymhlethdodau'r byd o'ch cwmpas. Ymhellach, trwy gydol fy mywyd, rydw i wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd chwilio am fentoriaid. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael set anhygoel o athrawon sydd wedi fy siapio i fel y person yr ydw i heddiw - ac ni ellid bod wedi cyflawni hynny heb wneud ymdrech weithredol i gysylltu â nhw.

Previous
Previous

Stori Melissa

Next
Next

Stori Laura