Hyfforddwyr MISTI GTL yng Nhymru 2024

 

Akila Saravanan

Mae Akila yn cwblhau gradd meistr mewn Peirianneg Awyrofod yn MIT, gyda gradd Israddedig mewn Peirianneg Awyrofod a Chyfrifiadureg gydag Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol fel pwnc atodol. Ar hyn o bryd mae Akila yn gweithio fel Hyfforddwr a Mentor Prosiect Ymchwil i InspiritAI, lle mae hi'n dysgu rhaglenni deallusrwydd artiffisial ar-lein i fyfyrwyr Ysgol Ganol ac Uwchradd, ac mae hefyd yn Ymchwilydd Graddedig yn MIT Dynamics, lle mae hi wedi datblygu modelau i leoli canolfannau rhagchwilio dronau ar gyfer ymateb i drychinebau. Mae Akila wedi gweithio fel intern Dysgu Peirianyddol i Aurora Flight Sciences (Cwmni Boeing) ym Massachusetts, intern Peirianneg ar gyfer Venturi Astrolab yng Nghaliffornia, intern Dadansoddwr Buddsoddiadau ar gyfer Meru Capital Group yn Efrog Newydd, ac intern Peirianneg Meddalwedd ar gyfer Princeton Satellite Systems yn New Jersey. Mae gan Akila drwydded Beilot Breifat a Pheilot Drone, dyfarnwyd Ysgolhaig Gofodwr Dosbarth 2022 iddi gan Sefydliad Ysgoloriaeth y Gofodwr, ac mae wedi bod yn Llywydd Clwb Hedfan MIT ers 2020.

Diana Bishop

Mae Diana yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn MIT sy’n astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg ac Ieithyddiaeth ac Athroniaeth. Ar hyn o bryd, mae’n Gynorthwywraig Labordy ar gyfer cwrs Cyflwyniad i Feddwl Cyfrifiadurol Gwyddor Data MIT, lle mae hi’n tiwtora myfyrwyr mewn cysyniadau codio cyffredinol a Python. Cyn hynny, roedd Diana yn gweithio fel Ymchwilydd Israddedig i Labordy Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial MIT lle’r oedd hi’n ymchwilio i ddiffygion sy'n seiliedig ar gystrawennau mewn modelau iaith fel ChatGPT. I ddangos ei sgiliau arweinyddiaeth, mae Diana ar hyn o bryd yn  Weinyddwr Rhaglen a Swyddog ar gyfer Rhaglen Astudiaethau Addysg MIT, ac yn Swyddog, Dylunydd Goleuadau a Rheolwr Llwyfan ar gyfer Ensemble Shakespeare MIT. Ar lefel bersonol, mae Diana yn edrych ymlaen at y cyfle i ddysgu am ddiwylliant Cymru, clywed y Gymraeg yn cael ei siarad, a chael profiad ymarferol gyda chwricwlwm dwyieithog.

Disha Kohli

Mae Disha yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn MIT sy’n astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Mathemateg. Mae ei hieithoedd a’i sgiliau rhaglennu yn cynnwys Python, Java, Ruby on Rails, React Native, Figma, C/C++, Javascript, HTML, CSS, SQLite, Numpy, React, MATLAB, Linux, a Julia. Yn ystod haf 2023, roedd Disha yn gweithio fel intern Peirianneg Datblygu Meddalwedd yn Nepal. Yma, dyluniodd a datblygodd ap i gysylltu ffermwyr sy’n darparu cynnyrch i Ddyffryn Kathmandu yn uniongyrchol â’u defnyddwyr er mwyn rhoi gwerth eu harian yn ôl iddynt. Mae Disha hefyd wedi rhaglennu sgwrsfot addysgol i gefnogi dysgu rhithwir. Yn MIT, mae Disha yn rhan o Camp Kesem - rhaglen sy’n ceisio darparu man diogel i blant gyda rhieni sydd wedi ymladd neu’n ymladd canser ar hyn o bryd. Er nad yw Camp Kesem yn canolbwyntio ar addysg, mae’r gwersyll wedi dysgu Disha’r cariad, amynedd, dyfeisgarwch, hyblygrwydd a’r hud a ddaw gyda chefnogi plant.

Emma Schuler

Mae Emma yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sy’n astudio Peirianneg Fiolegol. Mae hi’n aelod (yn ogystal ag Ysgrifenyddes) o’r grŵp MITBiomakers - grŵp sy’n ymroddedig i harneisio’ch diddordeb eich hun mewn bioleg i weithio ar brosiectau unigol neu grŵp tra hefyd yn datblygu gweithdai ar gyfer pobl gydag ychydig o brofiad yn y pwnc. Ers 2022, mae Emma hefyd wedi bod yn aelod o Camp Kesem - rhaglen sy’n ceisio darparu man diogel i blant gyda rhieni sydd wedi ymladd neu’n ymladd canser ar hyn o bryd - ac mae hefyd yn Gydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae Emma yn canmol lle mae hi heddiw yn fawr i’r athrawon anhygoel oedd ganddi wrth dyfu i fyny. Mae hi’n gwybod pa mor ddylanwadol y gall athrawon fod pan fyddan nhw’n angerddol am eu gwaith, a byddai’n ymdrechu i gael yr un dylanwad cadarnhaol ar ba bynnag fyfyrwyr y mae’n eu haddysgu.

Evelyn Zhu

Mae Evelyn yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sy’n astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Evelyn ar hyn o bryd yn Beiriannydd Meddalwedd ar gyfer Sunona.ai (busnes newydd gofal iechyd) lle mae’n gweithio ar ddatblygu gwefannau stac llawn gan ddefnyddio GPT i gynhyrchu nodiadau meddygol. Mae hi hefyd yn Ymchwilydd Israddedig i Dîm Deallusrwydd Artiffisial Gweledol Labordy Senseable City MIT, a hefyd yn Rhaglennydd Ymreolaeth ar gyfer Is-dîm Morwriaeth Arcturus Robotics MIT. Y tu allan i’r ystafell dosbarth, mae Evelyn yn yr 1% uchaf o chwaraewyr gwyddbwyll yn yr Unol Daleithiau! Hi yw Cyd-sylfaenydd (ac Athrawes Gwyddbwyll) Unruly Queens, lle mae hi wedi hyfforddi dros 200 o chwaraewyr gwyddbwyll benywaidd ifanc ar draws y wlad trwy lansio gwersi gwyddbwyll grŵp ar-lein am ddim. Mae hi wedi cydweithio â chyd-feistri i adeiladu a gweithredu cynlluniau gwersi sydd yn amrywio o sgiliau gwyddbwyll sylfaenol i strategaethau a technegau datblygedig.

Julie Chen

Mae Julie yn ei ail flwyddyn yn MIT ac yn astudio Peirianneg Gemegol. Mae hi’n Gynorthwyydd Addysgu Cemeg yn MIT, lle mae’n hwyluso sesiynau tiwtora ac yn cynnal oriau swyddfa ar gyfer setiau problemau bob wythnos a sesiynau adolygu ar gyfer arholiadau. Ar ben hynny, mae Julie yn Hwyluswr Ystafell Adnoddau Ysgolheigion Dawnus mewn cemeg, bioleg a mathemateg. Mae ei hanrhydeddau allgyrsiol yn cynnwys bod yn Fedalwr Talaith a Rhanbarthol yr Olympiadau Gwyddoniaeth, bod yn Enillydd Talaith WorldQuest Academaidd a chystadleuwr Cenedlaethol, derbyn Gwobr Arbennig ar gyfer Her Modelu Mathemateg M3, a derbyn Gwobr Ranbarthol Tîm Her Dechnoleg FIRST. Mae Julie am addysgu oherwydd ei bod yn mwynhau helpu eraill i ddeall cysyniadau, yn enwedig ar bynciau cafodd drafferth gydag o blaen. Mae’n hoffi dangos i bobl yr awgrymiadau a’r triciau a ddefnyddiodd ei hun i ddeall pwnc a gweld y cysyniad yn “clicio” gyda nhw.

Katherine Reisig

Mae Kathrine yn ei phedwaredd flwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Amgylcheddol a Cherddoriaeth. Mae hi’n angerddol am ledaenu gwybodaeth a helpu pob myfyriwr i ddod y gorau y gallant fod. Yn ystod haf 2022, teithiodd Katherine i Dde Affrica am fis a phartneriodd â’r Mamelodi Initiative i ddysgu mathemateg i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 8 a 9. Mae hi’n deall yn iawn fod addysg yn fraint a all newid bywydau. Mae Katherine wedi gweithio fel intern yng Nghanolfan Estyniad Ymchwil Panhandle Prifysgol Nebraska-Lincoln, lle bu’n cydweithio â thîm o ddeg person i gasglu a phrosesu data er mwyn canfod effaith lefelau amrywiol o wrteithiad ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, llygredd dŵr, a chynnyrch planhigion. Mae gan Katherine gariad gwirioneddol at gerddoriaeth, gyda chefndir trylwyr mewn theori cerddoriaeth, perfformiad cerddoriaeth a hanes cerddoriaeth.

Kennedy Adkinson

Mae Kennedy yn ei thrydedd flwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Awyrofod yn MIT. Mae ganddi angerdd am fentora a thiwtora, ac mae wedi cael profiad helaeth o addysgu mewn grwpiau bach a mawr ar gyfer llu o bynciau - gan gynnwys pynciau STEM ac eraill. Mae gan Kennedy gyfoeth o brofiad arweinyddiaeth. Hi yw Arweinydd Ffitrwydd ac Arweinydd Clwb Hedfan ar gyfer Corfflu Hyfforddi Swyddogion Wrth Gefn y Llynges yn ogystal ag arwain ar egwyddori Myfyrwyr y Llynges, Cyfeiriadedd Gyrfa a Hyfforddi Canol-longwyr. Mae Kennedy hefyd yn Arweinydd Lleoliadau, Cynghorydd Cyswllt, a Chynghorydd ac Arweinydd Uned Camp Kesem. Trwy gydol ei phrofiad yn MIT, mae Kennedy wedi canolbwyntio ar ddatblygu ei sgiliau arweinyddiaeth ac mae’n teimlo’n hyderus yn ei gallu i gyfathrebu, datrys problemau, a chydbwyso chwilfrydedd, gwaith caled a hwyl mewn ystafell dosbarth!

Mackenzie Bivin

Mae Mackenzie yn ei thrydedd flwyddyn yn MIT ac yn astudio Dadansoddeg Busnes ac Economeg. Mae hi’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn rhaglen GTL yng Nghymru gan ei bod am gysylltu â’r ieuenctid, rhoi yn ôl, a helpu sicrhau cyfleoedd o safon i drochi myfyrwyr yn STEM. Mae Mackenzie yn angerddol am brofiadau addysgol pobl ifanc, felly, bydd yn gweithio i wella’r profiadau hynny. Ar hyn o bryd mae Mackenzie yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu yn Adran Economeg MIT, ac mae hefyd yn Gydlynydd Datblygu Camp Kesem yn MIT. Yn flaenorol, mae Mackenzie wedi gweithio fel Intern Ymchwil a Datblygu pêl-fas i San Diego Padres. Yma, archwiliodd a dadansoddodd ddata i fesur dibynadwyedd a chasglu patrymau a thueddiadau ystyrlon, a defnyddiodd ddulliau ystadegol uwch i greu modelau tueddiad chwaraewyr.

Miles Oglesby

Mae Miles yn fyfyriwr bedwaredd flwyddyn yn MIT sy’n astudio Peirianneg Awyrofod. Trwy raglen GTL yng Nghymru, mae’n edrych ymlaen at ddysgu ffiseg, rocedi ac unrhyw beth sy’n ymwneud â’r gofod a/neu hedfan. Ar hyn o bryd, mae Miles yn Ymchwilydd Israddedig yn Labordy Gyriant Gofod MIT, lle mae’n cynnal ymchwil ar ddefnyddio gwthwyr electrochwistrellu fel chwistrellwyr tanwydd ar gyfer gwthwyr cyfundanwydd. Mae Miles hefyd yn Gynorthwyydd Addysgu Israddedig a Mentor Ffiseg yn MIT, ac yn Arweinydd Myfyrwyr ar Raglen Arweinyddiaeth Peirianneg Gordon-MIT. Yn y rôl hon, mae’n cymryd rhan mewn rhaglen datblygu arweinwyr dethol sy’n canolbwyntio ar feithrin y sgiliau arwain a chydweithio sy’n gyrru timau peirianneg llwyddiannus. Yn flaenorol, mae Miles wedi gweithio fel Intern Peirianneg Systemau, gan berfformio gwaith rheoli rhaglenni ar brosiectau sy’n cynnwys yr awyren Growler EA-18G, ac fel Intern Rheoli Rhaglen Dechnegol, gan ddatblygu meddalwedd sy’n monitro cryfder signal lloeren i’w arddangos i weithredoedd teithiau i’r gofod.

Natasha Joglekar

Mae Natasha yn cwblhau gradd meistr mewn Cyfrifiadureg Peirianneg yn MIT, gyda gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg a Bioleg Foleciwlaidd gydag Astudiaethau Menywod a Rhywedd fel pwnc atodol. Mae Natasha yn credu bod STEM yn cael ei weld fel disgyblaeth lle nad yw creadigrwydd a phersonoliaeth yn bwysig, y mae bod yn MIT wedi'i ddysgu iddi yn bell o'r gwir. Trwy addysgu, mae hi am gysylltu ag a dangos bod set amrywiol o bobl a sgiliau yn werthfawr ac yn angenrheidiol mewn STEM. Ar hyn o bryd mae Natasha yn gweithio fel Dadansoddwr Data yn y Camden Coalition, lle mae’n gweithio gyda thimau rhaglen i allu diffinio ac adeiladu metrigau safle-benodol, adeiladu dangosfyrddau adrodd, a chyfathrebu tueddiadau data i weithwyr cymdeithasol, nyrsys a chydlynwyr gofal glaf. Mae Natasha wedi gweithio’n flaenorol fel Cynorthwyydd Addysgu ar gyfer Calcwlws Sengl ac Amlnewidiol ac fel Tiwtor Adran Bioleg yn MIT.

Varsha Sandadi

Mae Varsha yn cwblhau gradd meistr mewn Cyfrifiadureg a Gwyddorau Ymenyddol a Gwybyddol yn MIT, gyda gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg a Gwyddorau Ymenyddol a Gwybyddol. Mae hi’n credu’n gryf mewn defnyddio pŵer addysg STEM i feithrin llawenydd i ddysgu a chwilfrydedd mewn myfyrwyr. Ers 2021, mae Varsha wedi gweithio fel Hyfforddwr Deallusrwydd Artiffisial i InspiritAI. Yma, mae hi wedi cyfarwyddo dros 400 o fyfyrwyr (7-18 oed) ar draws 650+ awr o sesiynau rhithwir, o ddechreuwyr i raglenwyr uwch. Mae Varsha wedi gweithio o’r blaen fel Intern Dysgu Peiriant ym Massachusetts a’r Iseldiroedd, yn ogystal ag Intern Ymgynghorol yn Illinois. Mae gan Varsha 4+ mlynedd o brofiad mewn addysgu rhyngwladol trwy amrywiaeth o raglenni MISTI/GTL, yn ogystal â rhaglenni addysgu a mentora fel gweithgareddau allgyrsiol.

Oes diddordeb gennych i ymuno â’n tîm?

Os yr ydych yn fyfyriwr STEM (israddedig neu ôl-raddedig) mewn prifysgol yng Nghymru ac yr hoffech chi ddysgu ochr yn ochr â hyfforddwyr eraill ar draws y byd trwy'r rhaglen Global Teaching Labs yn 2022, cysylltwch â Equal Education Partners.